Mae Ty Glyndwr yn hostel newydd a bywiog yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon. Ceir yma groeso Cymreig gyda blas rhyngwladol. Croeseiwr unigolion, grwpiau a theuluoedd yn gynnes. Boddhewch eich llygaid, clustiau a’ch tafod yn y caffi neu’r bar gydag amrywiaeth wych o gynyrch lleol a pherfformiadau byw.
Wedi ei adeiladu yn 1815, mae Ty Glyndwr wedi ei adnewyddu yn llwyr i greu lleoliad cyfoes a chyffrous gan adfer moethusrwydd Fictorianaidd. Cewch awyrgylch croesawgar ac ymlaciol, llety cyfforddus a chyfleusterau o safon am bris cystadleuol. Ceir dewis o stafelloedd i’w rhannu, ystafell breifat neu uned deuluol.
Mae caffi cornel Ty Glyndwr yn darparu coffi wedi rhostio yn lleol, te arbennig a diodydd oer. Daw ein cacennau, toesion a phasteion o fecws cyfagos. Mae’r bar clud yn y seler yn llawn cwrw, seidr a gwirodydd Cymreig a rhyngwladol ac yn cynnal digwyddiadau cerddoriaeth byw yn rheolaidd. Mae Ty Glyndwr yn gwmni Eco-gariadus a Fegan-gyfeillgar.
‘Rydym wedi’n lleoliyngnghanol Caernarfon argornelStrydFawr a Stryd y Castell.