Lleoliad

LLEOLIAD / CYFARWYDDIADAU / PARCIO

Rydym wedi’n lleoli yng nghanol Caernarfon ar gornel Stryd Fawr a Stryd y Castell.

LLEDRED 53.140650 Gdd

HYDRED 4.2766589 Gn

CYFEIRNOD GRID SH478628


CYFEIRIAD

Ty Glyndwr
Byncws, Bar and Caffi
1 Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SE

LLYWIO LLOEREN

NODIR O.G.Y.DD. Hebryngir chwi i’r hostel gyda’r cod post uchod, fodd bynnag, mae’r hostel wedi ei leoli mewn ardal barcio cyfyngedig oddi mewn i furiau’r castell. Caniateir i westeion ollwng eu bagiau yn yr hostel ac yna parcio yn un o feysydd parcio’r dref y tu allan i furiau’r castell. Ar gyfer meysydd parcio, dilynwch LL55 1SR


CYFARWYDDIADAU

CYRRAEDD GYDA CHAR

Mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus yng ngogledd y dref ar hyd ffordd Balaclava a Doc Fictoria. Gan ymlwybro o gyfeiriad yr A487 o bob cyfeiriad, dilynwch arwydidon ar gyfer Doc Fictoria. Er mwyn cerdded i’r hostel, parhewch ar hyd ffordd Balaclava, ymlaen ar ffordd Glan Mor, trwy fur y castell hyd at ffordd pedwar a chwech. Trowch i’r dde ar y Stryd Fawr, ymhen 40m, bydd yr hostel ar y dde ar gornel Stryd y Castell.

CYRRAEDD GYDA THRAFNIDIAETH CYHOEDDUS

Mae’r orsaf drennau a bysiau teithiau hir agosaf ym Mangor, 4 milltir i ffwrdd. Ceir bysiau cyhoeddus rheolaidd o orsaf drennau Bangor i Gaernarfon, gallwch hefyd fachu tacsi yn syth o’r orsaf. Wrth deithio ar y bws, disgynnwch yn y brif orsaf ar ffordd Penllyn. Ar droed, chwith ymlaen i Stryd y Bont wedyn i’r dde wrth gyraedd Y Maes. Gan gadw’r castell ar eich chwith, dilynwch Pen Deitsh am tua 50m wedyn dde ar gyfer Stryd y Castell. Mae Ty Glyndwr ar gornel waelod Stryd y Castell a’r Stryd Fawr