Ystafelloedd

Wedi ei leoli mewn adeilad Fictorianaidd rhestredig gradd 2 ac wedi’i adfer yn drylwyr, mae ein hostel yn darparu llety preifat neu wedi’i rannu ar gyfer unigolion a theuluoedd.

Wedi ei leoli yng nghalon y dref, 50m oddi wrth Castell Caernarfon a ddynodwyd yn safle treftadaeth bydol a munud ar droed o lannau’r afon Menai.

Troellwch i fyny’r grisiau i’ch ystafell ac fe gewch chwa o aer y mor a gwen yr haul trwy ffenestri gwreiddiol. Mae gan bob ystafell naws arbennig gyda dodrefn diddorol i chi eu canfod.

Darperir brecwast hunan-weini gyda choffi barista pob bore. Nid oes cyfleusterau hunan-weini fel y cyfryw, fodd bynnag, mae nifer o opsiynnau bwyta o fargeinion i wledda yng Nghaernarfon. Mae’r caffi ar agor trwy gydol y dydd.

Mae 3 stafell x8 gwely, ystafel breifat ac uned deuluol.

Mae’r llety dros 3 llawr gyda thoiled / ystafell folchi / cawod ar bob llawr.

Croesawn gwn.

Bydd ein staff cyfeillgar a chroesawgar ar gael o hyd ar gyfer gwybodaeth i deithwyr. Ceir WiFi am ddim i ymwelwyr.

EIN LLETY

Mae gennym 5 ystafell I gyd. 3 x stafell 8 gwely, un ystafell breifat gyda bync sengl a gysgir 2 gyda opsiwn o ychwanegu crud baban, hefyd, uned deuluol gyda gwely dwbl mawr a chadeiriau gwely dwbl a sengl I letya hyd at 6. Darllenwch wybodaeth yr ystafelloedd, archebu a chanslo yn ofalus os gwelwch yn dda.

Stafelloedd a’u rhennir: Mae pob ystafell a rennir yn gymysg neu un-rhyw (i’w ddewis wrth archebu) a chost o £25 y person y noson. Ceir gostyngiad o 10% wrth archebu 7 noson o arhosiad neu hirach. Gellir archebu ystafell gyfan gyda phreswyliaeth breifat am gost o £175 y noson. Gosodir isafswm oedran o 14 mlwydd ar gyfer archebion stafelloedd a’u rhennir pan hebryngir y gwestai iau gan oedolyn dros 25 mlwydd oed. Ni does isafswm oedran ar gyfer preswyliaeth breifat.

Ystafell breifat: Gellir archebu’r ystafell hon ar gfyer hyd at 2 oedolyn a phlentyn mewn gwely crud. Codir £55 y noson beth bynnag fo niferoedd y gwestai. Ceir gostyngiad o 10% wrth archebu 7 noson o arhosiad neu hirach.

Uned deuluol: Mae’r uned deuluol at ddefnydd teuluoedd yn unig. Gall gysgu 6, fodd bynnag, caniateir grwpiau cymysg oedolion a phlant gydag uchafswm o 4 oedolyn o fewn y grwp. Codir tal o £95 y noson. Mae gan yr uned deuluol decell, meicrodon ac oergell fechan. Gellir trefnu gwely crud. Ceir gostyngiad o 10% wrth archebu 7 noson o arhosiad neu hirach.

PRISIAU YN CYNNWYS

Brecwast byffe cyfandirol ar gael rhwng 0700 a 1000. Brecwast yn cynnwys eich dewis o goffi o’n caffi ble gellir prynnu eitemau ychwanegol. Os oes gennych unrhyw alergeddau, anoddefgarwch neu anghenion deietegol arbennig siaradwch gydag aelod o’r tim hostel cyn I chi ein cyraedd.

Mae cyfleusterau ymolchi ar bob llawr a rennir rhwng 2 ystafell ar y mwyaf.

Darperir dillad gwely a chlustogau. Gellir llogi tyweli ar gais.

ARCHEBU LLETY

Rhaid talu am eich arhosiad wrth archebu. Darllenwch ein polisi canslo cyn cadarnhau eich archeb os gwelwch yn dda.